Coffaoliaeth

Cofebion

Am filoedd o flynyddoedd, mae dynolryw wedi teimlo’r angen i godi cofeb i nodi’r teimlad o golled, cariad a pharch tuag at aelod o’r teulu neu ffrind. Mae’n darparu pwynt ffocws ar gyfer anwyldeb a choffâd i ddathlu bywyd unigol annwyl iawn. Mae’n ddatganiad o beidio cael eich anghofio. Gall fod yn fynegiant o serch anfarwol a gall helpu gyda’r broses o alaru y mae pob un ohonom yn debygol o wynebu ar ryw adeg yn ein bywydau.

Ein Hamcan

Mae ystod eang o ddewis o ran cynnyrch a phris. O ganlyniad, gobeithiwn y byddwch yn gallu dod o hyd i gofeb y teimlwch sy’n briodol yn y lleoliad hwn ac am bris sy’n gweddu i chi.

Mae croeso i chi gysylltu ag aelod o staff os hoffech chi wybod unrhyw beth arall neu i drafod. Maent yno i fod o gymorth i chi.

Gwneud Trefniadau

Mae ein staff nid yn unig at eich gwasanaeth i ddewis cofeb addas, os dymunwch; ond gallant hefyd eich cynorthwyo gyda’r gwaith papur angenrheidiol, a’ch gwneud yn ymwybodol o’r amodau, telerau a rheoliadau cyffredinol. Gallant wneud hyn ar y safle, dros y ffôn, trwy e-bost, trwy anfon gwybodaeth atoch trwy’r post neu ymweld â chi yn eich cartref. Chi biau’r dewis.

Home Memorials

Some people may not want to return to the crematorium but still wish to have a fitting tribute to the memory of their loved one in the familiar surrounds of their own home and often where the memories of that person are felt the strongest.

Mae gan nifer o’r dewisiadau isod amrywiaethau y gellir eu teilwra yn ôl chwaeth bersonol. Yn ogystal, gallwn ddarparu unrhyw un o’r cynnyrch isod a threfnu eu gosod yn unrhyw ardal o’r Deyrnas Unedig mewn cyfeiriadau preifat, amlosgfeydd, mynwentydd neu mynwentydd eglwysi yn amodol i gyfyngiadau a rheoliadau lleol. Cysylltwch â ni am ddyfyniad ysgrifenedig personol.