Rydym yn dechrau ar oes newydd o’r gwasanaeth angladd pwrpasol gyda theuluoedd yn edrych ar wahanol ffyrdd o anrhydeddu cof eu hanwyliaid mewn ffordd bersonol. Ni oedd y cwmni cyntaf i gyflwyno’r slotiau amser un awr yn 2013 i roi mwy o amser i deuluoedd dathlu bywyd eu hanwyliaid a chaniatáu iddynt hwy a’u cyfeillion gyrraedd a gadael heb weld angladd arall a allai achosi iddynt deimlo’n rhan o gludfelt amhersonol.
Gwnaethom hyn am ein bod yn sylweddoli bod angen mwy o amser ar gyfer dangos ffotograffau, chwarae cerddoriaeth ac adrodd molawdau. Gwnaethom gyflwyno hyn gydag unrhyw recordiad cerddoriaeth, sgriniau ffrydio gwe a molawdau ffotograffig yn safonol yn 2011, fel y gallai teuluoedd gael y cyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn er mwyn gwneud eu gwasanaeth angladd yn ddathliad unigryw o fywyd hoffus a theyrnged i fywyd gwerthfawr.
Mae’r ychwanegiadau dewisol hyn yn parhau i fod ar gael ym mis Ionawr 2020, ac rydym wedi ehangu ar y cysyniad gan mai ni yw’r grŵp amlosgfeydd cyntaf yn y wlad i gynnig 1 llun, o ddewis y teulu, am ddim uwchben yr elor ar gyfer y gwasanaeth cyfan. Hefyd, gall y teulu ddewis lliw’r golau ar adeg y traddodi.
The selected image is displayed on the wall above the catafalque via a projector. It may be one of the person whose service it is; a family photograph; a favourite place; or more general images such as a football team; a regimental badge; a favourite artist; a charity logo or perhaps the White Cliffs of Dover. The lighting system includes a number of colour selections or plain white is available as the default choice.
Ffoniwch 01745 530810.